Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (LBRO)

Pwy sy'n ein gwarchod yn y gwaith ac yn y artref, yn cynnal ansawdd ein hawyr a'n bwyd, ac yn sicrhau ein bod yn cael ein trin yn deg wrth brynu nwyddau? Yn y DU, ymgymerir â'r tasgau hanfodol hyn gan wasanaethau rheoleiddiol 433 awdurdod lleol. Maent yn gweithredu mewn amgylchedd gymhleth, yn aml yn cydweithio ac yn gweithio mewn partneriaethau gydag asiantaethau eraill er mwyn mynd i'r afael â materion eang ac amrywiol, tra'n dal i ganolbwyntio ar drosglwyddo canlyniadau gwell i gyflawni cymunedau iach, diogel, gwyrdd a llwyddiannus.

Mae'r gweithgareddau a wneir gan wasanaethau rheoleiddiol yn cyfrannu at ffyniant economaidd a diogelwch defnyddwyr, tra'n cael eu harwain gan anghenion a blaenoriaethau lleol.  Mewn cysylltiad â'n cenhadaeth i wella rheoleiddio busnesau ar lefel lleol, mae ein cylch gwaith yn estyn i bedwar gwasanaeth: iechyd yr amgylchedd, diogelwch tân, trwyddedu a safonau masnach. Maent i gyd yn darparu cyngor, cymorth a gorfodaeth i gwmnïau, yn gweithredu eu harbenigedd i faterion allweddol.

Mae ein cynhyrchion yn anelu at gefnogi'r gwaith hwn ac mae'n cynnwys teclynnau, enghreifftiau ymarfer, trosolygon prosiect, gwybodaeth, casgliadau ymchwil ac adroddiadau ymgynghori.

Mae ein cylch gwaith yn cwmpasu'r DU, ond mae ei faint yn amrywio, felly rydym yn cydweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod ein gwaith yn briodol i sefyllfa gyfansoddiadol pob un.

Yng Nghymru rydym yn gweithredu ar sylfaen cynllun busnes blynyddol gwahanol ag ariannu penodol, a oruchwylir gan uwch swyddog polisi penodedig. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda LBRO i ddatblygu agwedd gyson at gyflawni rheoleiddio gwell ar draws y DU a anelir at angen. Mae gan hyn oblygiadau am fformat a ffocws y gweithgareddau a ymgymerir â hwy gan y gwasanaethau rheoleiddiol mewn meysydd fel dosbarthu arfer gorau, gweithredu sancsiynau sifil, ac ymgysylltu â chwsmeriaid. Hefyd rydym yn rhoi cyngor i weinidogion Cymru ar reoleiddio lleol.

JPG: General - PDF Icon 2Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2010-11 (15/07/2011 PDF - 2.4 MB)

PDF Icon 2Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2009-10 (14/07/2010 PDF - 2.7 MB)

PDF Icon #2Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2008-09 (14/07/2009 PDF - 1 MB)

PDF Icon #2Canllawiau i Awdurdodau Sylfaenol (06/04/2009 PDF - 268 KB)

© 2012 LBRO